top of page
rach 17.jpg

Rwy'n ysgrifennu barddoniaeth ac yn creu gwaith celf.
Mae pobl yn gofyn yn aml: "Ydi'r barddoniaeth yn sail i'r celf, neu'r celf yn ysbrydoli'r barddoniaeth?"
Y ddau a bod yn onest! Rwy'n cael fy ysbrydoli gan y môr, byd natur, bywyd teulu a fy nheimladau.

​

​

Tra ar fy ngwyliau rwyf wedi gwario oriau yn cribo glan y môr, yn hel pethau sydd wedi'i golchi i fyny ar y traethau neu wedi'i gadael ar ôl; pethau sy'n 'gofyn' i mi ei troi yn ddarn o gelf neu yn gerdd.

​

Mae peiriant pwytho Singer fy nain yn ddarn o eiddo rwy'n ei drysori ac dal yn ei ddefnydio heddiw. Rwyf wedi dilyn ei hesiampl o gyfuno defnyddiau gwahanol sydd gyda ystyr personol dwfn i mi i greu cwiltiau y gellir ei trysori am byth.

​

Ar Medi 29ain 2017, newidiodd ein bywydau am byth. Collodd fy ffrind ei merch annwyl 9 mlwydd oed, Daisy, a collodd fy merch 9 mlwydd oed i, Daisy, ei ffrind gorau. Cafodd bywyd ei ddwyn o'n cymuned. Mae hyn wedi'i adlewyrchu yn fy ngwaith.

​

Yn 2020 fe brofiasom gyfiyngiadau symud Covid-19, hunanynysu a chysgodi, ac fe sbardunodd hyn i mi greu corff o waith: Deuddeg - Cadw Lle, sydd wedi'i ysbrydoli yn rhannol gan hen stori tylwyth-teg o Ddenmarc 'Y Tywysog Llyngyr'.

​

Yn ei dro, fe ail-gynnodd hyn fy niddordeb yng nghylch bywyd llysywod, a'r dirgelwch o amgylch ei taith o Fôr y Sargasso i'n afonydd ac yn ôl, gan arweiniodd i fy arddangosfa symudol 'Adlef Llysywod' a llyfr plant - 'Eirian the Eel'.

​

Mae fy ngwaith celf wedi ei arddangos mewn nifer o arddangosfeydd, ac mae rhai o fy ngherddi (yn ogystal a Eirian the Eel) wedi'i gyhoeddi ac ar gael drwy Amazon. Rwyf wedi cyfrannu i raglenni radio a darlleniadau llyfrau, ac yn 2016 roeddwn yn Gelfwraig Preswyl yn Eglwys Santes Fair Owrtyn.

​

Fel preswyliwr yn Safle'r Gwneuthuriwr yn TÅ· Pawb, Wrecsam, Ebrill - Medi 2023, cefais gyfle i greu ac arddangos fy ngwaith gosod cyntaf, Deildy Priodasol y Tywysog Llyngyr, a hefyd cael ysbrydoliaeth i fy ngwaith celf diweddaraf: Yn y Gawell.

 

Cartref nesaf y celf a fy ngweithdai, fydd Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin ger Dolgellau.

 

Rwyf wedi fy nghomisiynnu i greu gwaith celf ac rwyf wedi gwerthu darnau di-gomisiwn ar ôl arddangosfeydd. Cysylltwch efo fi os ydych eisiau prynu unrhyw ddarn o waith neu gomisiynnu darn personol.

​

bottom of page