Eirian y Lysywen
Gwaith celf a ddefnyddiwyd yn y llyfr 'Eirian the Eel' yn dweud hanes taith llysywen o Fôr y Sargasso, gan fynd gyda’r llif i gyrraedd afonnydd Cymru, ac yna, rhyw 20 mlynedd yn ddiweddarach, yn ôl i Fôr y Sargasso dros Crib Canol yr Iwerydd.
Mae’r Lysywen Ewropeaidd wedi colli 95% o’i phoblogaeth yn y 30/40 mlynedd diwethaf drwy’r byd i gyd. Mae newidiadau i’r hinsawdd, rhwystrau annaturiol, pŵer gwyrdd, plastig, llygredd, a hyd yn oed cymeryd canabis mewn gŵyl yn effeithio ar lysywod.
Mae gan y pysgodyn yma hanes enfawr wedi ei blethu gyda’n rhywogaeth ein hunain, ond yn ein cenhedlaeth ni, mae fwy neu lai wedi diflannu o’n cof. Mae colli cof cenedlaethol yn broblem amgylcheddol gwirioneddol i rywogaeth, bioamrywiaeth a lles y ddaear; ac mae stori Eirian yn ceisio ail-gynnau ein perthynas gyda’r rhywogaeth cyfrin yma gan gyflwyno hanes y lysywen i'n plant.
Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfa symudol 'Echoes of Eels' sy'n cynnwys Eirian y Lysywen ar gael drwy https://echoesofeels.co.uk