top of page

Deuddeg yw’r nifer o wythnosau a gynghorwyd i warchod pobl eithriadol o fregus. Rwyf wedi

gwneud ffrog neu ddilledyn bob wythnos, drwy ddefnyddio eitemau o fy nghasgliad o raffau môr a rhwydi, y broc môr rwyf wedi ei gasglu o draethau Cymru, yr Alban a Iwerddon dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud, fe wrandawais ar bodlediad Dr Martin Shaw o Emergence Magazine, yn ailadrodd chwedl o Ddenmarc, Tywysog Lindorm. Teimlais fod y stori yn addas iawn i’r sefyllfa bresennol.

 

12 yw’r nifer o wisgoedd a wnaeth y ferch cyn ei phriodas â Tywysog Lindorm. Fe wisgodd y 12 ar noson ei phriodas, ac wrth iddi hi ddiosg un gwisg ar y tro, roedd y Tywysog hefyd yn diosg un croen llyngren, tan iddo newid yn gyfan gwbl o fod yn llyngren i fod yn ddyn.

 

Diosgwyd 12 haen yn y stori. Sawl haen sy’n cael ei diosg gan ein cymdeithas rwan? Sawl haen ydym yn ei diosg i gyrraedd y pethau sydd yn hanfodol yn ein bywydau? I’r pethau pwysicaf i ni? Sawl haen i ni gael ein trawsnewid a symud ymlaen?

 

Fel celfyddwraig, rwyf yn creu dyluniadau gweledol o fy ngherddi. Mae geiriau newydd wedi dod i fewn i’n geirfa dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’n debyg y bydd mwy ohonynt yn dod. Geiriau fel hunanynysu, gwarchod, cadw pellter cymunasol. Mae geiriau eraill wedi dod i olygu llawer i mi tra rwyf wedi bod yn creu, a’r geiriau yn dod yn rhan o’r celf a’r cerddi. Geiriau fel datod, datgysylltu, cyfnewid, ail-wampio ac yn fwy diweddar “cadw lle”.

 

Mae rhifau wedi dod yn bwysig mewn ffyrdd nad ydynt wedi bod yn bwysig i nifer ohonom o’r blaen: 12, 120 diwrnod, 12,000 marwolaeth.

 

Mae Deuddeg: Cadw Lle yn ffordd o ymdopi; o fynegi; yn yr amseroedd digyffelyb hyn.

Fy Mhrosiect Y Cyfnod Clo - Deuddeg: cadw lle

bottom of page