top of page

 

Y celf gosod yma yw delidy  priodasol y Tywysog Llyngyr  a'i bysgotwraig.
Dylanwadwyd ar y celf gosod gan y Frenhiness Cliodhna, brenhiness Môr yr Iwerydd a'r ynysoedd Celtaidd. Yn  ôl hanes, os wnewch chi sibrwd eich dymuniad i mewn i gragen, ei glymu efo gwymon a'i daflu i'r nawfed don bydd  eich dymuniad yn cael ei ganiatau. Y nawfed don neu'r nawfed deyrnas yn y Mabinogion yw'r môr, felly mae popeth yn cysylltu efo'i gilydd.


Gofynnais i bobl a ddaeth i Safle'r Gwneuthuriwr a fyddent yn hoffi ysgrifennu dymuniad ar ddarn o liain, dewis cragen a darn o raff sy’n apelio atynt, a lapio'r dymuniad i fyny a’i hongian ar y rhwyd ysbryd.


Trwy greu eu dymuniadau, mae pobl wedi treulio amser nid yn unig yn ysgrifennu'r dymuniad, ond hefyd yn dewis y gragen berffaith a darn o raff iddyn nhw. Maent hefyd wedi dewis y lle ar y rhwyd yn ofalus. Roedd rhai parau yn rhannu eu dymuniadau, tra byddai eraill yn cadw ei dymuniadau ar wahan. Roedd rhai teuluoedd yn defnyddio rhaff gyda llawer o ddarnau rhydd arno, i glymu dymuniadau'r teulu mewn un bwndel. Roedd cyfeillion yn gosod eu dymuniadau yn agos at ei gilydd.


Y nod yn y pen draw yw cymeryd y dymuniadau i gyd oddi ar y celf gosod, gwneud cwrlid ohonynt, ac yna lluchio'r cwrlid i’r nawfed don, gan ffilmio y cwrlid yn dychwelyd i’r traeth, pan rydym yn gobeithio bydd y dymuniadau i gyd yn cael eu caniatau!

 

Mae'r rhwyd wedi'i gysylltu efo modur sy'n gwneud iddo siglo ac yn creu sŵn fel tonnau'n taro wal ogof wrth lan y môr. Mae tywod, cregyn, gwymon a broc môr yn cygrannu at y teimlad o fod at y traeth.


Cyfryngau – rhwyd ysbryd a ddaeth o draeth yn Galway, rhaff môr, cregyn o draethau Cymru, Iwerddon a’r Alban; lliain, rhaff, bachau, modur.

Celf Gosod - Rhwyd Ysbryd

bottom of page