- Gwaith a ysbrydolwyd gan gyfnod preswyl yn Safle'r Gwneuthuriwr
Yn fuan ar ôl cyrraedd Safle'r Gwneuthuriwr, fe wnaeth arlunydd arall gyfeirio ato fel “Y Gawell”. Fe wnaeth hynny fy atgoffa o Maya Angelou a'i thrafodaeth o “Pam fod yr aderyn caeth yn canu?” a’i diwrnod cyntaf yn yr ysgol.
Un o'r themau sy'n rhadeg drwy fy ngwaith yw mygydu/cuddio/creu gwirionedd tu ôl i len, lle gallwn fodoli “yn saff” tu ôl i'r cawelloedd rydym yn ei creu yn ein meddyliau, bywydau, cymdeithasau, ein hunain; sydd ond yn cael ei aflonyddu weithiau gan y llen yn plycio a dangos gwirionedd bywydau eraill a'r arswyd sy’n medru cuddio yno. Mae “Cawell” Safle'r Gwneuthuriwr wedi ysbrydoli mwy o farddoniaeth a chelf ar y thema yma!
Agor Blwch Pandora - Mae fy ngwaith fel arfer yn dechrau gyda cerdd, neu bydd y cerddi yn dod yn ystod neu ar ôl i mi wneud y gwaith celf. Doeddwn i ddim yn siwr beth i'w ddisgwyl pan ddeuais i i Safle'r Gwneuthuriwr, ond doedd cael fy ysbrydoli gan natur sgwar/blociog Tŷ Pawb ddim yn uchel ar fy rhestr syniadau! Yn y darn yma, mae tâp masgio yn creu'r patrwm bloc (cyn cael ei ail-gylchu mewn darn arall o waith!). Y stribedi o fewn y blociau yw'r ardaloedd gwag o fewn eich meddwl, y geiriau sy’n mynd ar goll pan ydych yn edrych amdanyn nhw. Defnyddiais graeon arferol yn ogystal a chraeon defnydd i ysgrifennu beth oedd yn fy meddwl dros nifer o ddyddiau ar ôl cyraedd y Safle, o fewn cyd-destyn adrannau'r meddwl a beth sy'n digwydd pan mae'r waliau'n dechrau ymddatod. Fe wnes i arbrofi efo paent gwter a phaent sidan (dwi'n gweithio ar hen gynfas gwely), yna acrylig gyda deunydd pacio gan adael ffenestr yn sbecian drwyddo. Yn olaf, y cylchoedd gyda'r gwahanol ffyrdd rydym ni fel rhywogaeth yn edrych ar natur - mae'r diagram venn bresennol wedi ei gymryd yn llythrennol yn golygu fod bodau dynol yn gallu bodoli heb natur, a chynrychiolaeth arall ble mae bodau dynol yn bodoli yn gyfangwbl o fewn natur, sy'n treiddio drwy'r darn i gyd.
Golygfeydd Cudd - Mae’r rhain wedi ei gwneud gan ddefnyddio stribedi o dâp masgio wedi'i ail-gylchu, sy’n creu ardal sy’n gwrthsefyll argraffu i wneud bloc ar liain. Mae'n nhw wedi datblygu hanfod cyffroes, gan greu fersiwn o’r thema Golyfa Gudd, gan sbecian drwodd at fyd tu hwnt.
Rwy'n hoffi'r serendipedd sy’n dod o chwarae gyda defnyddiau sydd wedi’i “darganfod” sydd yn sgil-gynnyrch neu wastraff o broses arall.
Mae'r darnau celf yma mewn sawl lefel o anorffenedigrwydd! Mae rhai wedi ei gwneud yn gwrlid, eraill yn disgwyl. Bydd rhai yn cael ei gorffen ac yn dod yn ddarnau celf yn eu rhinwedd eu hunain tra bydd eraill yn mynd ymlaen i fod yn rhan o brosiectau eraill.